Ein Gweledigaeth
Y weledigaeth yw bod Gogledd Cymru yn rhanbarth lle mae’r bobl, ac yn benodol eu sgiliau a’u galluoedd, yn allweddol i ddatblygiad economaidd a lles. Mae cyflogwyr y rhanbarth yn ffynnu, yn datblygu ac yn tyfu oherwydd sgiliau’r boblogaeth leol. Mae busnesau eisiau symud i’r rhanbarth oherwydd sgiliau’r boblogaeth leol. Ar yr un pryd, gall pobl gyflawni eu huchelgais a gwneud y mwyaf o’u pontensial yng Ngogledd Cymru.
Ein Blaenoriaethau
Galluogi a grymuso cyflogwyr
Galluogi a grymuso unigolion
Sut y darperir cefnogaeth a sefydlu’r cysylltiadau