Ein Ffocws
Ers 2014, mae PSRh Gogledd Cymru wedi bod yn dod â chyflogwyr, darparwyr sgiliau a rhanddeiliaid lleol allweddol ynghyd i ddeall a datrys camgyfatebiaethau sgiliau yn well ar lefel leol a rhanbarthol. Mae'r bartneriaeth yn gweithio i nodi anghenion sgiliau rhanbarthol nawr ac yn y dyfodol ac yn defnyddio'r wybodaeth yma i sicrhau bod y ddarpariaeth fwyaf addas a pherthnasol ar gael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol!
Prif rôl yr PSRh yw mynd i'r afael â phrinder sgiliau trwy ddylanwadu ar y ddarpariaeth sgiliau ôl-16 yng Ngogledd Cymru yn seiliedig ar wybodaeth am y farchnad lafur a mewnwelediad a arweinir gan gyflogwyr. Mae'r PSRh yn cronni gwybodaeth o bob rhan o system y farchnad lafur, yn trosoledd rhwydweithiau presennol ac yn darparu cyngor strategol hanfodol, trosolwg ac argymhellion i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.
Mae’r PSRh yn rhan o ddull ehangach Llywodraeth Cymru o ddatblygiadau economaidd rhanbarthol, gan gynnwys yr ymrwymiad yn y Cynllun Gweithredu Economaidd i gryfhau cynllunio strategol rhanbarthol. Mae PSRh Gogledd Cymru hefyd yn cefnogi Cynllun Twf Gogledd Cymru trwy weithio gyda phartneriaid prosiect i gwmpasu a deall gofynion sgiliau buddsoddiad y Cynllun Twf. Unwaith y bydd y sgiliau hyn wedi'u nodi, caiff y wybodaeth ei chasglu a'i defnyddio i lobïo darparwyr a Llywodraeth Cymru am newidiadau yn y ddarpariaeth.
Ein Cynllun Sgiliau a Chyflogadwyedd Rhanbarthol
Yn dilyn cais i'r PSRh gan Lywodraeth Cymru yn 2019 i gymryd golwg fwy strategol, hirdymor o'r system sgiliau yn y rhanbarth, mae'r PSRh bellach ar eu hail iteriad o gynllun Sgiliau a Chyflogaeth tair blynedd. Nod Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth 2023-2025 yw cael system sgiliau Gogledd Cymru i weithio’n galetach ac yn gallach i gwrdd â swyddi, nawr ac yn y dyfodol. Yn sail i’n Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth mae Glasbrint Sgiliau Gogledd Cymru, sy’n amlygu 3 blaenoriaeth sydd eu hangen i gefnogi’r dirwedd sgiliau a chyflogaeth dros y 3 blynedd nesaf. Tynnwyd y blaenoriaethau at ei gilydd trwy sylfaen dystiolaeth helaeth ar anghenion rhanbarthol, adborth ymgynghori gan ystod eang o gyflogwyr, darparwyr a rhanddeiliaid allweddol.
Ein blaenoriaethau yw:
- Galluogi a Grymuso Cyflogwyr
- Galluogi a Grymuso Unigolion
- Sut y Darperir Cefnogaeth a Creu'r Cysylltiadau