Mae cwmpas a dylanwad strategol yr BSRh yn adlewyrchu ei rôl gynyddol bwysig wrth fynegi'r galw am sgiliau ar lefel ranbarthol a lleol. Mae dylanwad y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol diweddar wedi'i ymestyn i lywio nifer o feysydd polisi a amlygwyd ym mlaenoriaethau Cynllun Gweithredu'r BSRh. Er mwyn cyflawni nodau'r Cynllun Gweithredu, mae Gweithgorau ffurfiol wedi'u sefydlu i adrodd ar y cynnydd i'r Bwrdd BSRh yn rheolaidd. Mae'r Gweithgorau yn arwain a chydlynu amcanion gweithredoly Blaenoriaethau yn y Cynllun Gweithredu. Hyd yma, mae’r BSRh wedi sefydlu’n ffurfiol Gweithgor Cyflogadwyedd, dan gadeiryddiaeth Niall Waller, Gweithgor Darparwr Dysgu Seiliedig ar Waith, dan gadeiryddiaeth Pryderi Ap Rhisiart, Grŵp Clwstwr Cyflogwyr y Sector Gyhoeddus dan gadeiryddiaeth Heather Johnson a Grŵp Clwstwr Cyflogwyr Adeiladwaith dan gadeiryddiaeth Alison Hourihane. Mae Cylch Gorchwyl a Chofnodion y grwpiau hyn hefyd ar gael.