Annog merched i geisio gyrfa mewn adeiladu ar gyfer Wythnos Merched mewn Adeiladu

Annog merched i geisio gyrfa mewn adeiladu ar gyfer Wythnos Merched mewn Adeiladu

Adeiladu yw un o'r sectorau mwyaf yng Ngogledd Cymru, ond mae merched yn parhau i gael eu tangynrychioli'n sylweddol yn y diwydiant. Yn ôl data diweddaraf gan Portal Sgiliau Gogledd Cymru, dim ond 9.1% o weithlu’r rhanbarth sy’n ferched.

Mae disgwyl i sectorau adeiladu a gweithgynhyrchu Gogledd Cymru dyfu yn y blynyddoedd i ddod, gyda phrosiectau’n amrywio o ddatblygiadau tai i ddewisiadau gweithgynhyrchu gwyrdd. Mae denu mwy o ferched i’r diwydiant yn hanfodol nid yn unig ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant, ond hefyd ar gyfer twf. Mae’n hanfodol mynd i’r afael â’r galw cynyddol am weithwyr medrus.

Ar ôl gweithio yn y diwydiant adeiladu am sawl blwyddyn, mae Mari ar hyn o bryd yn bensaer gyda Saer Architects, dywedodd: “Fel pensaer sydd newydd gymhwyso, mae fy mhrofiad o fewn y maes adeiladu wedi bod yn heriol ond yn foddhaus hefyd - pob dydd, dwi’n cael defnyddio fy nghreadigrwydd i ddylunio gofodau sy’n effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau. Er bod y diwydiant yn dal i weithio ar gydbwysedd rhwng merched a dynion, mae lle i ferched adael eu marc. Dwi’n edrych ymlaen i weld mwy o ferched yn llunio dyfodol pensaernïaeth ac adeiladu, gyda’r obaith o greu diwydiant mwy amrywiol ac ysbrydoledig.” 

 “Er mwyn cau’r bwlch rhywedd, dwi’n meddwl bod angen mwy o gynrychiolaeth a chefnogaeth arnom. Mae annog merched i ymchwilio i'r maes yn gynnar, arddangos role models benywaidd, a chefnogi merched sydd mewn rolau arweinyddiaeth yn allweddol. Bydd creu mwy o gyfleoedd ym mhob rhan o’r diwydiant adeiladu yn helpu i leihau’r rhwystrau.

 “Mae fy nghyngor i ferched sy’n ystyried dyfodol yn y maes yn syml: ewch amdani! Mae eich creadigrwydd, angerdd a syniadau yn bwysig; peidiwch â gadael i unrhyw un ddweud yn wahanol. Dewch o hyd i fentoriaid, adeiladwch rwydwaith, ac mae’n rhaid i chi gredu bod posib i chi ffynnu. Efallai ni fydd yn hawdd bob tro, ond mae gwerth o wneud hynny!”

Nod Portal Sgiliau Gogledd Cymru yw mynd i’r afael â’r mater hwn yn uniongyrchol trwy wasanaethu fel yr adnodd i unigolion ddefnyddio ar gyfer chwilio am swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd prentisiaeth o fewn y maes adeiladu a thu hwnt. Mae’r platfform yn darparu gwybodaeth am y farchnad lafur, gan helpu unigolion i ddeall tueddiadau diwydiant, gofynion sgiliau, a’r llwybrau gyrfa sydd ar gael yng Ngogledd Cymru.

 “Mae annog mwy o ferched i ystyried gyrfa o fewn y maes adeiladu yn hanfodol ar gyfer dyfodol y diwydiant," yn ôl Sian Lloyd Roberts, Rheolwr Rhanbarthol Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru. "Gan ei bod yn Wythnos Merched mewn Adeiladu a gan y bydd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn fuan, nid oes amser gwell i fynd i’r afael â’r bwlch rhywedd yn y diwydiant ac amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael yng Ngogledd Cymru.

 “Mae’r galw am weithwyr medrus yn cynyddu, ac mae cyfleoedd gwych ar gael ar draws amrywiaeth o swyddi. Trwy sicrhau bod merched yn yr ysgol, boed yn staff neu’n ddisgyblion yn cael mynediad at y wybodaeth a’r gefnogaeth gywir, gallwn helpu i adeiladu gweithlu mwy amrywiol a deinamig ar gyfer Gogledd Cymru."  

O brentisiaethau neu swyddi lefel mynediad i rhai arweinyddiaeth, mae’r maes adeiladu yn cynnig opsiynau gyrfa gwych a chyflog da i ferched o bob cefndir. Mae Portal Sgiliau Gogledd Cymru yn cysylltu cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac unigolion sy’n dymuno cymryd eu camau cyntaf neu ddatblygu eu gyrfaoedd o fewn y sector.

Er mwyn darganfod swyddi gwag , prentisiaethau, a chyfleoedd hyfforddi o fewn y maes adeiladu a thu hwnt, ewch i portal-gogledd. cymru. 

DIWEDD

Ymholiadau am y Portal: helo@portal-gogledd.cymru

Ymholiad gan y cyfryngau: erin@atebcymru.wales neu 07533 514027