Ysbrydoli i Adeiladu: Llunio Dyfodol y Diwydiant Adeiladu yng Ngogledd Cymru

Ysbrydoli i Adeiladu: Llunio Dyfodol y Diwydiant Adeiladu yng Ngogledd Cymru

Mae’r diwydiant adeiladu yng Ngogledd Cymru mewn amser allweddol, gan wynebu heriau sy’n galw am atebion arloesol. Mae cyflogwyr aelodau o’r Grŵp Clwstwr Cyflogwyr Adeiladu Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi amlygu prif heriau sy’n eu hwynebu ar hyn o bryd:

  • Anhawster i ddenu a recriwtio talent (gan gynnwys pobl sydd yn fwy academaidd) i rolau uwch (sydd ddim yn rôl grefft).
  • Angen am fwy o amrywiaeth rhywiol ar draws y sector.
  • Gweithlu sy’n heneiddio.

I ymateb, mae’r Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi arwain ar ddatblygiad y rhaglen Ysbrydoli i Adeiladu, menter wedi’i ddylunio i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn uniongyrchol.

Beth yw Ysbrydoli i Adeiladu?

Mae Ysbrydoli i Adeiladu yn rhaglen ddeinamig sy’n anelu at drawsnewid canfyddiadau o yrfaoedd yn y diwydiant adeiladu, yn enwedig mewn rolau proffesiynol fel rheoliprosiectau, arolwg meintiau, pensaernïaeth, ac eraill y tu hwnt i’r traddodiadol. Mae’n ymdrechu i ddenu ystod amrywiol o unigolion, gan gynnwys menywod, i’r sector, tra’n mynd i’r afael â chynllunio olyniaeth gweithlu.

Yn ei hanfod, mae Ysbrydoli i Adeiladu yn codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd amrywiol yn y sector adeiladu ac yn darparu’r sgiliau a’r ysbrydoliaeth i weithwyr proffesiynol y dyfodol lwyddo. Trwy gydweithio â CITB a cyflogwyr, mae’r rhaglen yn sicrhau bod ei gweithgareddau yn cyd-fynd ag anghenion y diwydiant a’r gweithlu.

Nid yn unig ar gyfer y rheini sy’n gwybod eu bod am ddilyn gyrfa yn y diwydiant adeiladu y mae’r rhaglen yma – mae’n ceisio ysbrydoli pawb, gan arddangos y posibiliadau a’r llwybrau cyffrous sydd ar gael yn y sector. Mae pob sesiwn yn cael ei arwain gan gyflogwr adeiladu sy’n gweithredu yn y rhanbarth ac yn cynnwys ymweliad safle, gan roi cipolwg ymarferol i gyfranogwyr a’r diwydiant.

Mae Ysbrydoli i Adeiladu hefyd yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr am lwybrau i yrfaoedd adeiladu trwy’r coleg, y brifysgol, a phrentisiaethau, gan gynnwys y Brentisiaeth Gradd yn y Diwydiant Adeiladu, a ddechreuodd ym mis Medi. Mae’r dull cynhwysol ac ymarferol yma yn sicrhau bod unigolion o bob cefndir yn gallu darganfod a dilyn cyfleoedd gwerth chweil yn y sector adeiladu.

Ateb Cydweithredol:

Wedi’i ddatblygu trwy ddull partneriaeth, mae Ysbrydoli i Adeiladu yn cynrychioli ymdrech ar y cyd gyda CITB, cyflogwyr, colegau, Gyrfa Cymru, Adran Addysg Awdurdodau Lleol a ysgolion uwchradd, wedi’i gydlynu gan y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru. Mae’r model yma yn sicrhau bod y rhaglen yn aros yn seiliedig ar ymarferoldeb y sector adeiladu a ysgolion wrth feithrin ymrwymiad ar y cyd i’w llwyddiant hirdymor.

Llwyddiant y Peilot ar Ynys Môn:

Mae’r rhaglen a gynhaliwyd yn beilot ar Ynys Môn wedi dangos canlyniadau addawol, gan amlygu effaith gadarnhaol ar ddysgwyr a chyflogwyr.

Cymerodd pedwar ar ddeg o ddysgwyr (gan gynnwys 4 menyw) o bedair ysgol uwchradd ar Ynys Môn ran yn y rhaglen chwe wythnos, a gynhaliwyd yn yr adran adeiladu yn Coleg Menai Llangefni ar ôl ysgol bob dydd Mawrth. Roedd y rhaglen yn cynnwys ymweliad safle wedi’i arwain gan Kier Construction yn eu safle Rheoli Ffiniau ym Mhorthladd Caergybi, gan roi mewnwelediad ymarferol i’r diwydiant adeiladu.

Roedd cyflogwyr a gymerodd rhan weithredol yn y peilot drwy arwain sesiynau yn cynnwys, Read Construction, Griffiths, Wynne Construction, a phrosiect Morlais gan Menter Môn, gan sicrhau cysylltiad cryf rhwng y dysgwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Mae adborth gan y dysgwyr yn tynnu sylw at pa mor effeithiol yw’r rhaglen:

  • Dysgon nhw sgiliau gwerthfawr y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, megis datrys problemau, cyfathrebu, cyflwyno, gwaith tîm, arweinyddiaeth a rheolaeth.
  • Dywedodd y dysgwyr eu bod bellach yn teimlo’n fwy gwybodus am y mathau o swyddi sydd ar gael yn y sector a’r llwybrau i’r rolau hyn, gan wneud eu camau gyrfa nesaf ar ôl gadael yr ysgol yn fwy clir.
  • Mae’r dysgwyr yn gwerthfawrogi’r cyfle i adeiladu eu rhwydweithiau proffesiynol a sefydlu cysylltiadau â chyflogwyr.

Mae un stori lwyddiant yn sefyll allan yn cynnwys dysgwr a estynnodd allan yn annibynnol at gyflogwr y tu allan i’r sesiynau ac sydd eisoes wedi trefnu profiad gwaith ar gyfer yr haf, gan ddangos gallu’r rhaglen i ysbrydoli menter ac i ddarparu cyfleoedd gyrfa pendant.

Camau Nesaf:

Gyda llwyddiant peilot Ynys Môn fel sylfaen, mae cynlluniau barhaus i ehangu’r rhaglen Ysbrydoli i Adeiladu ar draws Gogledd Cymru. Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan yn y cam nesaf o Ysbrydoli i Adeiladu, anogir darparwyr a chyflogwyr i gysylltu â’r Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru: Info@rspnorth.wales.

Gwyliwch Uchafbwyntiau’r Rhaglen: Gwyliwch fideo sy’n dangos uchafbwyntiau’r rhaglen beilot, gan gynnwys tysteb gan ddysgwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid am ganlyniad ei effaith.