Newyddion

Posts From Mawrth, 2025

Annog merched i geisio gyrfa mewn adeiladu ar gyfer Wythnos Merched mewn Adeiladu

Annog merched i geisio gyrfa mewn adeiladu ar gyfer Wythnos Merched mewn Adeiladu

Adeiladu yw un o'r sectorau mwyaf yng Ngogledd Cymru, ond mae merched yn parhau i gael eu tangynrychioli'n sylweddol yn y diwydiant. Yn ôl data diweddaraf gan Portal Sgiliau Gogledd Cymru, dim ond 9.1% o weithlu’r rhanbarth sy’n ferched.

Mae disgwyl i sectorau adeiladu a gweithgynhyrchu Gogledd Cymru dyfu yn y blynyddoedd i ddod, gyda phrosiectau’n amrywio o ddatblygiadau tai i ddewisiadau gweithgynhyrchu gwyrdd. Mae denu mwy o ferched i’r diwydiant yn hanfodol nid yn unig ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant, ond hefyd ar gyfer twf. Mae’n hanfodol mynd i’r afael â’r galw cynyddol am weithwyr medrus.

Ar ôl gweithio yn y diwydiant adeiladu am sawl blwyddyn, mae Mari ar hyn o bryd yn bensaer gyda Saer Architects, dywedodd: “Fel pensaer sydd newydd gymhwyso, mae fy mhrofiad o fewn y maes adeiladu wedi bod yn heriol ond yn foddhaus hefyd - pob dydd, dwi’n cael defnyddio fy nghreadigrwydd i ddylunio gofodau sy’n effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau. Er bod y diwydiant yn dal i weithio ar gydbwysedd rhwng merched a dynion, mae lle i ferched adael eu marc. Dwi’n edrych ymlaen i weld mwy o ferched yn llunio dyfodol pensaernïaeth ac adeiladu, gyda’r obaith o greu diwydiant mwy amrywiol ac ysbrydoledig.” 

 “Er mwyn cau’r bwlch rhywedd, dwi’n meddwl bod angen mwy o gynrychiolaeth a chefnogaeth arnom. Mae annog merched i ymchwilio i'r maes yn gynnar, arddangos role models benywaidd, a chefnogi merched sydd mewn rolau arweinyddiaeth yn allweddol. Bydd creu mwy o gyfleoedd ym mhob rhan o’r diwydiant adeiladu yn helpu i leihau’r rhwystrau.

 “Mae fy nghyngor i ferched sy’n ystyried dyfodol yn y maes yn syml: ewch amdani! Mae eich creadigrwydd, angerdd a syniadau yn bwysig; peidiwch â gadael i unrhyw un ddweud yn wahanol. Dewch o hyd i fentoriaid, adeiladwch rwydwaith, ac mae’n rhaid i chi gredu bod posib i chi ffynnu. Efallai ni fydd yn hawdd bob tro, ond mae gwerth o wneud hynny!”

Nod Portal Sgiliau Gogledd Cymru yw mynd i’r afael â’r mater hwn yn uniongyrchol trwy wasanaethu fel yr adnodd i unigolion ddefnyddio ar gyfer chwilio am swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd prentisiaeth o fewn y maes adeiladu a thu hwnt. Mae’r platfform yn darparu gwybodaeth am y farchnad lafur, gan helpu unigolion i ddeall tueddiadau diwydiant, gofynion sgiliau, a’r llwybrau gyrfa sydd ar gael yng Ngogledd Cymru.

 “Mae annog mwy o ferched i ystyried gyrfa o fewn y maes adeiladu yn hanfodol ar gyfer dyfodol y diwydiant," yn ôl Sian Lloyd Roberts, Rheolwr Rhanbarthol Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru. "Gan ei bod yn Wythnos Merched mewn Adeiladu a gan y bydd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn fuan, nid oes amser gwell i fynd i’r afael â’r bwlch rhywedd yn y diwydiant ac amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael yng Ngogledd Cymru.

 “Mae’r galw am weithwyr medrus yn cynyddu, ac mae cyfleoedd gwych ar gael ar draws amrywiaeth o swyddi. Trwy sicrhau bod merched yn yr ysgol, boed yn staff neu’n ddisgyblion yn cael mynediad at y wybodaeth a’r gefnogaeth gywir, gallwn helpu i adeiladu gweithlu mwy amrywiol a deinamig ar gyfer Gogledd Cymru."  

O brentisiaethau neu swyddi lefel mynediad i rhai arweinyddiaeth, mae’r maes adeiladu yn cynnig opsiynau gyrfa gwych a chyflog da i ferched o bob cefndir. Mae Portal Sgiliau Gogledd Cymru yn cysylltu cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac unigolion sy’n dymuno cymryd eu camau cyntaf neu ddatblygu eu gyrfaoedd o fewn y sector.

Er mwyn darganfod swyddi gwag , prentisiaethau, a chyfleoedd hyfforddi o fewn y maes adeiladu a thu hwnt, ewch i portal-gogledd. cymru. 

DIWEDD

Ymholiadau am y Portal: helo@portal-gogledd.cymru

Ymholiad gan y cyfryngau: erin@atebcymru.wales neu 07533 514027

Hwb newydd ar gyfer Cyfleoedd Cyflogaeth a Sgiliau yng Ngogledd Cymru

Bydd platfform newydd yn agor drysau i bobl a chyflogwyr yng Ngogledd Cymru drwy rannu cyfleoedd gwaith, hyfforddiant, gwybodaeth cyflogadwyedd a cyfleoedd twf o fewn y rhanbarth.

Yr wythnos hon, fe lansiodd Portal Sgiliau Gogledd Cymru sef platfform newydd ar-lein, er mwyn agor drysau i gyfleoedd yn y rhanbarth. Mae’n cynnig mynediad at swyddi, prentisiaethau, a chyfleoedd hyfforddiant yn ogystal a darparu cefnogaeth i gyflogwyr er mwyn datblygu ei gweithle.

Wrth gydweithio gyda partneriaid allweddol, mae’r Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (RSP) wedi datblygu’r Portal gan ddefnyddio adborth gan gyflogwyr a diwydiant. Roedd yr adborth yn awgrymu y gallai fwy gael ei wneud i helpu pobl a chyflogwyr i ddeall y gwahanol gyfleoedd, hyfforddiant, a chefnogaeth yn y rhanbarth.

Mae'r Portal yn mynd i'r afael â hyn trwy ddarparu hwb i bobl sy’n chwilio am eu cyfle nesaf ac i gyflogwyr sy’n ystyried ehangu eu rhwydweithiau ar gyfer talent lleol. Mae’n ei wneud yn haws i bobl ddeall yr amrywiaeth o opsiynau cyflogadwyedd a’r sgiliau sydd eu hangen yn sectorau twf Gogledd Cymru. Bydd y platfform, sydd am ddim i’w ddefnyddio, yn cynnwys digwyddiadau lleol, adnoddau cyflogadwyedd, ac arweiniad er mwyn hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael yn y rhanbarth.

Dywedodd David Roberts, Cadeirydd yr RSP:

"Mae'r Portal yn gam mawr ymlaen i Ogledd Cymru. Trwy roi cyfleoedd a'r gwasanaethau cymorth gwych mewn un lle, rydyn ni’n ei gwneud yn haws i bobl ddeall y llwybrau cyflogadwyedd yn yr ardal, yn ogystal a’r gefnogaeth bwysig ar gyfer gwella recriwtio, cadw a datblygu staff sydd ar gael. Ar yr un pryd, rydyn ni’n mynd i'r afael â'r bylchau sgiliau mae cyflogwyr ar draws y rhanbarth yn eu hwynebu.”

"Mae defnyddio adborth gan gyflogwyr lleol, gwybodaeth am y farchnad lafur, ac ymchwil ranbarthol i ddeall yr heriau yng Ngogledd Cymru wedi bod yn hanfodol. Datblygwyd y Portal gyda'r adborth hwn mewn golwg ac mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol fel colegau rhanbarthol, prifysgolion, darparwyr hyfforddiant annibynnol, Gyrfa Cymru a darparwyr cyflogadwyedd eraill.”

Fel un o bedair partneriaeth ledled Cymru, mae RSP Gogledd Cymru yn dwyn ynghyd gyflogwyr, darparwyr sgiliau a rhanddeiliaid allweddol i ddeall anghenion cyflogwyr yn well ar lefel leol a rhanbarthol. Maent hefyd yn dadansoddi gwybodaeth ranbarthol y farchnad lafur ac adborth gan gyflogwyr, sydd wedyn yn cael ei adrodd i Lywodraeth Cymru. Mae'r RSP yn annog ceiswyr gwaith, pobl a chyflogwyr Gogledd Cymru i wneud y gorau o'r Portal a dod o hyd i'w cyfle nesaf.

Mae Porth Sgiliau Gogledd Cymru wedi derbyn £75,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Am fwy o wybodaeth am y Portal, ewch i: https://portal-gogledd.cymru/cy/ neu cysylltwch â reesbrown@uchelgaisgogledd.cymru